| Bargoed
Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas
Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn
Fochriw Hengoed Nelson |
Menter
Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place,
Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn:
01443 820913
|
Menter Iaith Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 20 Tachwedd 2003
|
Bu’r flwyddyn ddiwethaf, sef bedwaredd flwyddyn y Fenter
yn gyfnod llwyddiannus iawn ac yn gyfnod o ddatblygu ac ehangu
gwaith y Fenter.
Yn ystod y flwyddyn bu’n bosib ehangu gwaith y Fenter
ymhellach drwy gyflogi aelodau newydd o staff. O fis Mawrth
ymlaen, parhaodd Rhys Wynne yn ei swydd fel Swyddog Cysylltiadau
Busnes ar gytundeb llawn amser. Yn ogystal yn sgil grant o
Gronfa Allweddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, apwyntiwyd
Tracy Reeves fel Swyddog Gofal Plant llawn amser i gefnogi
a datblygu ein cynlluniau gofal plant. Fe fydd aelod o staff
pellach yn ymuno â’r Fenter ym mis Gorffennaf,
pan fydd Helen Williams yn cychwyn fel Swyddog Gweithgareddau
a Cyllid. Erbyn hyn felly mae gennym ni tîm o staff
gweithgar tu hwnt, yn cynnwys ein Swyddog Datblygu, Lowri
Pugh, ein Swyddog Ieuenctid, Carly Wilson a Rhys Owen yn cefnogi
eu gwaith fel Rheolwr Swyddfa. Un o’i ddyletswyddau
pwysicaf yw paratoi deunydd ar gyfer cylchlythyron y Fenter.
Mae e hefyd yn gyfrifol am brawf ddarllen, gwirio a chywiro
gwaith y swyddogion eraill. Yn ogystal mae Rhys yn gyfrifol
am gyfieithu dogfennau amrywiol, o’r Saesneg i’r
Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg, yn cynnwys
llythyron, posteri, adroddiadau a dogfennau amrywiol eraill,
megis polisïau’r Fenter. Mae ein bas-data sylweddol
o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn holl bwysig i’n gwaith,
ac mae Rhys hefyd yn gyfrifol am ddiweddaru’r wybodaeth
hyn.
Mae holl staff y Fenter hefyd yn cynorthwyo gyda gweithgareddau
amrywiol y Fenter yn ogystal â gweithio o fewn eu meysydd
penodol.
Golyga’r apwyntiadau uchod ein bod bellach yn medru
cyflawni gwaith sylweddol mewn sawl maes ar draws y sir gyfan.
Mae agweddau amrywiol ein gwaith yn adlewyrchu pwysigrwydd
gweithio mewn partneriaeth â chyrff, sefydliadau ac
unigolion eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo a datblygu
defnydd o’r Gymraeg. Hyd yma mae ein prosiectau i gyd
wedi’u seilio ar bartneriaethau ac mae’r dull
hwn o weithredu wedi ein galluogi i rannu profiadau ac arbenigedd
a sicrhau fod cydweithio eang yn digwydd o fewn y sector cyfrwng
Cymraeg. Ein gobaith yw gweithredu o fewn meysydd amrywiol
megis ieuenctid, dysgwyr, y sector preifat, y sector gwirfoddol,
gofal plant, cyfieithu a hyfforddiant. Prif amcan y Fenter
felly yw sicrhau defnydd ehangach o’r Gymraeg yn y gymuned
gan sicrhau fod gan y Gymraeg statws ymhob agwedd o fywyd
a gwaith yr ardal.
Cysylltiadau Busnes
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, lluniwyd arolwg o holl fusnesau’r
sir er mwyn dynodi beth oedd statws y Gymraeg o fewn y sector
preifat a’r nifer o weithwyr oedd yn medru neu’n
dysgu’r Gymraeg. I gyd-fynd â hwn mae’r
Swyddog Cysylltiadau Busnes wedi bod yn gweithio’n agos
ag amryw o fusnesau er mwyn iddynt sicrhau grantiau gan Fwrdd
yr Iaith Gymraeg i gyfieithu llenyddiaeth, arwyddion a nwyddau
eraill.
Roedd y Fenter yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth
â busnesau ac i’r perwyl hwn mae’r Swyddog
wedi bod yn mynychu cyfarfodydd Fforwm Busnes Caerffili a
Siambr Fasnach Bargoed, gan weithio’n agos â busnesau’r
sir. Tanlinellodd y gwaith hwn pa mor bwysig ydoedd i annog
busnesau i ddod ynghyd i drafod mantais defnyddio’r
Gymraeg o fewn y sector preifat. O ganlyniad, bwriedir cynnal
cyfres o frecwastau busnes. Bwriad y boreau hyn fydd rhoi
cyfle i fusnesau ddod ynghyd i drafod manteision defnyddio’r
Gymraeg, i gwrdd â busnesau eraill ac i glywed am lansiad
Marc Safon y Fenter. Yn ystod y misoedd diwethaf mae Rhys
Wynne wedi datblygu Marc Safon ar gyfer busnesau sy’n
gwobrwyo busnesau ar sawl lefel am eu defnydd o’r Gymraeg.
Fe fydd sawl busnes felly yn ystod y flwyddyn nesaf yn derbyn
Marc Safon y Fenter am eu defnydd o’r Gymraeg. Yn ogystal,
bu Rhys Wynne yn weithgar iawn yn datblygu deunyddiau marchnata
sy’n rhoi gwybodaeth ar ein gwasanaeth cynghori i fusnesau.
Trwy ein gwaith yn y maes hwn, rydym hefyd yn hyrwyddo unrhyw
fusnes sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog neu’n
gwerthu nwyddau dwyieithog. Rydym hefyd wedi cynhyrchu arwyddion
agor a chau dwyieithog sydd ar gael am ddim i unrhyw fusnesau
neu sefydliad.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni hefyd yn gweithio
gydag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar brosiect Menter yr Ifanc ac
yn cynnal sawl gweithdy o dan brosiect Potentia, Menter a
Busnes.
Ieuenctid
Roedd denu ieuenctid y sir i ymwneud
â gwaith y Fenter yn hynod bwysig ac yn ganolog i amcanion
y Fenter. I’r perwyl hwn datblygwyd Cynllun Ieuenctid
Sir Caerffili ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru a Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili. Ers Rhagfyr 2002, mae Carly Wilson, ein Swyddog
Ieuenctid wedi datblygu sawl prosiect a gweithgaredd i bobl
ifanc y sir. Gan fod Carly wedi’i lleoli yn Ysgol Gyfun
Cwm Rhymni, mae hi wedi bod yn bosib datblygu sawl prosiect.
Erbyn hyn mae clwb CIC yn cwrdd yn wythnosol ar ôl ysgol
ar gyfer blynyddoedd 7&8 ac mae aelodau o’r chweched
dosbarth yn cynorthwyo i gynnal y clwb. Yn ogystal, cynhelir
clwb dawns wythnosol a chlwb drama ar fore dydd Sadwrn.
Mae Carly hefyd yn gweithio’n agos â
Gweithwyr Ieuenctid y Cyngor ac yn cynnig gweithgareddau yn
y gymuned trwy fysiau’r Cyngor, yr Hub a’r Basement.
Yn ystod y flwyddyn nesaf yn ogystal, fe fydd Carly yn datblygu
clybiau gweithgaredd yn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg
y sir gan hefyd denu pobl ifanc i ddilyn Gwobr Dug Caeredin
trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â’r gwaith
datblygu hwn a’r gweithgareddau wythnosol dyma fraslun
o’r gweithgareddau eraill a drefnwyd yn ystod y flwyddyn.
Gofal Plant
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae datblygiad
clybiau gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi bod yn ran ganolog
o waith y Fenter. Bu’r Swyddog Datblygu yn gweithio’n
agos dros ben â Phartneriaeth Gofal Plant Sir Caerffili
a Clybiau Plant Cymru ar geisiadau i’r Gronfa Cyfleoedd
Newydd ar gyfer darpariaeth gofal plant yn ysgolion Cymraeg
y sir. Erbyn hyn mae clybiau gofal ar ôl ysgol yn rhedeg
yn Ysgolion y Castell, Bro Allta, Gilfach a’r Lawnt.
Yn ogystal, mae cynlluniau gwyliau yn rhedeg yn Ysgolion Y
Castell, Bro Allta, Gilfach a Threlyn. Yn sgil apwyntiad Tracy
Reeves, fel Swyddog Gofal Plant ym Mawrth 2003, gall y Fenter
gynnig cefnogaeth sylweddol i’r cynlluniau. Yn ogystal,
yn dilyn cais llwyddiannus pellach i’r GCN, mae Tracy
yn datblygu clybiau brecwast ar hyn o bryd. Mae’r cynlluniau
yn cynnig nifer o weithgareddau amrywiol, gwibdeithiau, gweithdai
a chyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r
ysgol. Hoffai’r Swyddog Datblygu ddiolch yn ogystal
i Fiona Santos ac Alison Wood am eu cymorth a’u cyngor.
Yn ogystal â gwaith sylweddol y Fenter yn y broses o
sefydlu’r clybiau hyn mae Pwyllgorau Rheoli’r
clybiau wedi gweithio’n galed tu hwnt er mwyn i’r
clybiau gweithredu’n effeithiol. Rhieni yn bennaf sy’n
cynrychioli’r pwyllgorau hyn a dylid talu teyrnged i’r
rhieni hyn am eu gwaith a’u brwdfrydedd parhaus.
|
. |
Braf yw gweld cefnogaeth mor gryf i ddarpariaeth
sy’n cynnig amgylchfyd cyfrwng Cymraeg i blant yr ardal.
Mae’r clybiau hyn yn ddatblygiad pwysig yn y broses
o sefydlu cyfleoedd newydd a gwahanol i blant y sir i ddefnyddio’r
Gymraeg. Hoffai’r Swyddog Datblygu ddiolch i athrawon
yr ysgolion uchod am eu cydweithrediad a’u parodrwydd
i gefnogi’r clybiau. Mae cynrychiolaeth y Fenter ar
y Bartneriaeth Gofal Plant Caerffili hefyd yn hollbwysig er
mwyn denu cyllid ychwanegol at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
y sir ac er mwyn sicrhau fod y clybiau yn gweithredu’n
effeithiol. Ar hyn o bryd, mae Tracy yn cynllunio ar gyfer
tywys y cynlluniau trwy Safon Ansawdd y Bartneriaeth Gofal
Plant sy’n golygu bydd y cynlluniau yn cynnig gwasanaeth
o’r safon uchaf.
Dysgwyr
Un o brif amcanion y Fenter oedd cynyddu’r
ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr yr ardal a’r rheini sydd
wedi colli hyder wrth siarad yr iaith. Mae’r bobl hyn
yn cynrychioli grw^p pwysig iawn ac rydym yn gweithio’n
agos iawn gyda Geraint Wilson Price, Trefnydd Cymraeg i Oedolion
y sir er mwyn cynyddu’r gweithgareddau ar gyfer dysgwyr
a’r nifer o ddosbarthiadau Cymraeg yn y Gweithle, dan
ofal y Swyddog Siân Griffiths. Mae’n holl bwysig
ein bod yn cynnig darpariaeth i ddysgwyr y tu allan i wersi
fel eu bod yn magu hyder ac yn parhau i ddysgu a defnyddio’r
iaith. I’r perwyl hwn rydym wedi bod yn rhan o nifer
o foreau i ddysgwyr y sir, yn arbennig sawl Sadwrn Siarad
ar eu cyfer. Yn ogystal, mewn cydweithrediad â Sefydliad
y Glowyr, trefnwyd sawl Noson i Ddysgwyr. Roedd y nosweithiau
yn hynod lwyddiannus a bwriedir trefnu nosweithiau tebyg yn
y flwyddyn newydd. Mewn partneriaeth â Chymdeithas y
Dysgwyr (CYD) cychwynnwyd Cymdeithas Gymraeg Bargoed ar gyfer
dysgwyr a siaradwyr Cymraeg. Mae’r grw^p yn cwrdd yn
fisol er mwyn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol
a threfnir gweithgaredd neu siaradwr gwadd. Derbyniwyd £1000
unwaith eto eleni gan Banc HSBC ac rydym eisoes wedi ail-lansio
ein Cynllun Grantiau HSBC i Ddysgwyr. Roedd y cynllun yn hynod
lwyddiannus y llynedd ac mae’n bwysig iawn wrth annog
dysgwyr i barhau gyda’u dosbarthiadau. I’r perwyl
hwn, croesawyd Cheryl Pritchard, dysgwraig yn astudio ar gyfer
arholiad I’r swyddfa i gyflawni 20 awr o brofiad gwaith
mewn amgylchfyd cyfrwng Cymraeg. Roedd yn braf cael Cheryl
fel rhan o’r tîm am gyfnod a rhoi cyfle iddi hi
i barhau gyda’i hastudiaethau. Yn ystod y flwyddyn nesaf,
pan fydd y Swyddog Gweithgareddau yn cychwyn, bwriedir cynnal
boreau coffi wythnosol a misol i ddysgwyr.
Digwyddiadau’r
Flwyddyn
· Cinio Gw^yl Dewi yn y Maes Manor.
· Y Caws Mawr
· Diwrnod Hwyl y Bartneriaeth Gofal Plant
· Nosweithiau Cwis
· Nosweithiau Ceilys(Skittles)
· Taith i’r Eisteddfod Genedlaethol
· Noson Gerddoriaeth a Straeon
· Teithiau cerdded
Mae’r Fenter yn rhan o fforwm pwysig
Mentrau Morgannwg a Gwent (Menter Sirol Caerffili, Menter
Caerdydd, Menter Bro Ogwr a Menter Rhondda Cynon Taf) ac mae’r
clwstwr hwn o Fentrau Iaith wedi arwain at nifer o brosiectau
ar y cyd ac wedi ein galluogi ni i ymestyn ein gwaith i feysydd
newydd. Y fforwm hwn sy’n derbyn arian gan Banc HSBC
ar gyfer dysgwyr. Dwy flynedd yn ôl derbyniodd y fforwm
grant dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri er mwyn
datblygu prosiect cyfieithu cymunedol. Darparodd y grant hwn
offer cyfieithu ar y pryd i’r Fenter a bellach rydym
yn cyflogi Cyfieithydd Cymunedol i weithio i’r Fenter
ond hefyd fe fyddwn yn medru cynnig gwasanaeth y Cyfieithydd
i sefydliadau a busnesau amrywiol yn y gymuned. Erbyn hyn
mae’r prosiect wedi bod yn gweithredu am ddwy flynedd
ac wedi bod yn llwyddiannus dros ben. Mae nifer helaeth o
gyrff preifat a gwirfoddol yn elwa o’r gwasanaeth ac
mae’r prosiect yn sicrhau ei bod hi’n hawdd bellach
i gyrff gweithredu’n ddwyieithog. Mae’r datblygiadau
hyn yn holl bwysig er mwyn ehangu gwaith y Fenter ond hefyd
yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio ar y cyd â sefydliadau
eraill.
Yn sicr felly mae’r flwyddyn ddiwethaf
wedi gweld datblygiadau pwysig tu hwnt yng ngwaith y Fenter.
Rydym wedi llwyddo i ehangu ein gwaith a chynyddu ein staff.
Fe fydd y flwyddyn nesaf yn gweld y gwaith hwn yn parhau a
rôl y Fenter yn myned i feysydd newydd yn ogystal. Rydym
yn ymwybodol iawn fod angen gwaith sylweddol mewn nifer o
feysydd er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
ac fe fydd gwaith y Fenter yn parhau i gofleidio cyfleoedd
newydd.
Hoffai’r Swyddog Datblygu ddiolch i
Bwyllgor Gwaith y Fenter am eu gwaith sylweddol dros y flwyddyn
ddiwethaf. Diolch yn arbennig i’r prif swyddogion Gwyneth
Davies ,Ynyr Roberts, Helen Rogers a Luned John, am eu cefnogaeth
a’u cyngor parhaus. Bu cyfraniad aelodau eraill y pwyllgor
hefyd yn werthfawr tu hwnt, diolch i David Thomas, Alan Gwynant,
Pierre Bernhard-Grout, Maureen Potter a Lilian Jones. Mae
cefnogaeth y pwyllgor cyfan yn allweddol i lwyddiant swydd
y Swyddog Datblygu a rôl y Fenter yn y gymuned. Diolch
hefyd i holl staff y Fenter, Rhys Owen, Rhys Wynne, Carly
Wilson, Tracy Reeves, Helen Williams, Gwynallt Bowen a Penri
Williams am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal
â chynnig cefnogaeth a chyngor technolegol, mae Penri
wedi datblygu gwefan i’r Fenter. Mae gwasanaeth Penri
yn sicrhau bod ein swyddfa yn gweithio’n effeithiol
a hefyd ein bod yn medru cynnig gwybodaeth dros y we yn y
Gymraeg – cyfrwng sydd bellach yn boblogaidd tu hwnt.
Mae e’n cynnig gwasanaeth gwerthfawr tu hwnt i ni ac
rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad hwn yn fawr iawn.
Hoffai’r Swyddog Datblygu hefyd ddiolch
i’r rheini yn lleol y tu allan i’r pwyllgor, a
fu mor frwdfrydig ynghylch gwaith y Fenter, athrawon ysgolion
y sir, Denzil John, Golygydd Tua’r Goleuni, Ben Jones,
swyddogion Urdd Gobaith Cymru a staff amrywiol Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili, staff Mudiad Ysgolion Meithrin, GAVO, CYD,
Swyddogion Cymraeg i Oedolion, staff a rhieni y clybiau gofal
plant a nifer o wirfoddolwyr eraill.
Diolch yn ogystal i’n cyllidwyr, Bwrdd
yr Iaith Gymraeg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Y Gronfa
Cyfleoedd Newydd a HSBC am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen
at barhau i gydweithio gyda chi yn ystod y flwyddyn nesaf. |
| Menter
Iaith Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
14 Tachwedd 2002
Prif Weithgareddau 2001-2002
· Adnewyddu'r map o weithgareddau a sefydliadau
/ mudiadau Cymraeg y Sir, mewn partneriaeth a'r Cyngor Sir.
· Dosbarthu grantiau HSBC i Ddysgwyr y Sir.
· Cynhyrchu cylchlythyron am waith ac amcanion y Fenter.
· Cynnal stondin yn y Caws Mawr.
· Sefydlu cynlluniau gofal plant ar ol ysgol ac yn ystod y
gwyliau.
· Trefnu gweithgareddau trwy ein cynllun ieuenctid - Cynllun
Ieuenctid Sir Gaerffili, prosiect ar y cyd ag Urdd Gobaith
Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
· Cydweithio gyda Mentrau Morganawg a Gwent a Mentrau Iaith
Cymru. Cyfrannu i grwpiau tasg a thrafodaethau'r Parmeriaeth
Gofal Plant.
· Datblygu Prosiect Cyfieithu Cymunedol ar y cyd a Mentrau
Morgannwg a Gwent.
· Trefnu dwy daith gerdded.
· Trefnu sesiynau hyfforddiant ar ddwyieithrwydd i staff Cymdeithas
Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) a'u cynorthwyo i ddatblygu
Cynllun Iaith.
· Trefnu nosweithiau cymdeithasol i ddysgwyr yr ardal.
· Trefnu taith i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhy Ddewi.
· Trefnu dwy Noson Ceilys (Skittles) yng Nghaerf ili.
· Apwyntio Cynorthwy-ydd Marchnata (dros dro) a Swyddog Cysylltiadau
Busnes (parhaol) i hyrwyddo'r Gymraeg yn y sector preifat.
· Croesawu Jenny Randerson (Gweinidog Dros Ddiwylliant, Chwaraeon,
a'r Gymraeg - Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i swyddfa'r Fenter
i drafod gwaith y Fenter. · Datblygu gwefan y Fenter.
· Cydweithio a Grwp Deddf (Cynghorau Sir y De Ddwyrain, Bwrdd
yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Coleg
Gwent a Menter Iaith Sirol Caerffilli).
· Codi proffil y Fenter yn y Sir.
· Parhau i ddatblygu ein bas-ddata o siaradwyr a dysgwyr y
Gymraeg.
· Datblygu `Digwyddiadur' er mwyn hyrwyddo holl weithgareddau
Cymraeg a ddwyieithog yr ardal.
· Trefnu gig Ar Log ar y cyd a Sefydliad y Glowyr.
|
. |
Cyfarfod
Blynyddol Cyffredinol

Lowri Pugh, Gwyneth Davies a Helen Rogers
Cynlluniau ar Gyfer 2002-2003
· Parhau i ehangu gwaith y Fenter.
· Ehangu ein gwaith a'r Sector Preifat.
· Trefnu ystod eang o weithgareddau ar gyfer ieuenctid y Sir.
· Trefnu gweithgareddau i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
· Trefnu cinio Gwyl Dewi.
· Cynhyrchu cylchlythyron.
· Cyflogi Swyddog Prosiectau Gwirfoddoli Cymraeg.
· Cyllogi Swyddog Cyllid a Grantiau.
· Cyflogi Swyddog Gofal Plant.
· Sefydlu ail swyddfa i'r Fenter mewn man arall yn y Sir.
· Cydweithio gyda Mentrau Morgannwg a Gwent a Mentrau Iaith
Cymru.
· Parhau i ymgynghori a'r cyhoedd er mwyn darganfod y meysydd
hanfodol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg.
· Parhau i ymchwilio i ffynonellau cyllid amrywiol.
· Parhau i ddatblygu ein bas-ddata o siaradwyr a dysgwyr y
Gymraeg.
Hyrwyddo'r
Gymraeg ym myd Busnes
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut y gall yr
iaith Gymraeg fod o fantais i’ch cwmni chi ac yn atyniad gwerthu
unigryw, cysylltwch â Rhys Wynne yn Menter Caerffili.
Clybiau Carco
Mae'r Clybiau Carco
yn ail-agor ar ôl y gwyliau yn Ysgol Bro Allta, Ysgol
y Castell ac Ysgol Gilfach. Bwriedir agor Clwb Carco Ifor
Bach mor fuan â phosib. Rydym wrthi’n chwilio am staff i redeg
y Clwb – ceir manylion y swyddi yn yr hysbyseb isod.
|
| |
|
|
Cychwyn Menter Iaith Sirol Caerffili
Sefydlwyd Menter Iaith Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Rhagfyr
1999 er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y sir ymhob
agwedd o fywyd cymunedol. Mae'r Fenter yn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg
drwy gydweithio â mudiadau, sefydliadau, busnesau, dysgwyr,
ieuenctid ac ysgolion yr ardal. Bwriad y Fenter yw cynyddu cyfleoedd
trigolion o bob oedran i ddefnyddio'r Gymraeg mewn amrywiaeth o
feysydd.
Rheolir y Fenter gan Bwyllgor Gwaith o unigolion
sy'n gweithio neu'n byw yn y sir. Ym mis Mai 2000, apwyntiwyd Lowri
Pugh fel Swyddog Datblygu i weithredu gwaith y Fenter.
Mae Menter Iaith Sirol Caerffili yn derbyn
cymorth ariannol oddi wrth Cronfa Adfywio'r Gymuned gan Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili a grant oddi wrth Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Gweithgareddau
Erbyn hyn mae'r Fenter yn weithgar iawn mewn
amrywiaeth o feysydd a sectorau. Bu'r flwyddyn ddiwethaf, sef blwyddyn
cyntaf y Fenter yn gyfnod pwysig a llwyddiannus tu hwnt. Bu'n gyfnod
o sefydlu a diffinio rôl y Fenter yn y sir. O ganlyniad ymchwiliwyd
proffil y Gymraeg yn yr ardal mewn ymdrech i ganfod gwendidau'r
ddarpariaeth ar gyfer yr iaith. I'r perwyl hwn, aethpwyd ati i gwblhau
dau brosiect penodol, sef awdit o weithgareddau Cymraeg y sir a
bas-data o siaradwyr Cymraeg yr ardal. Bu'r ddau brosiect yn gyfle
i gydweithio'n agos a Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn arbennig
Swyddog Iaith y Cyngor. Canlyniad y bartneriaeth bwysig hon oedd
cynhyrchu gwybodaeth yr awdit ar ffurf map sy'n dangos y ddarpariaeth
Gymraeg ymhob sector gymunedol o hamdden i meithrinfeydd a gwersi
Cymraeg. Ein targed ar gyfer y bas-data oedd 500 0 enwau ac wedi
cyrraedd y targed honno rydym yn parhau i gasglu enwau gan sicrhau
fod dysgwyr a siaradwyr Cymraeg y sir yn derbyn gwybodaeth gyson
ar weithgareddau, gwasanaethau a phrosiectau'r Fenter.
Ieuenctid
Mewn Partneriaeth ag Urdd Gobaith Cymru a
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rydym yn datblygu prosiect ar
gyfer Ieuenctid yr ardal. Erbyn mis Medi bwriedir cyflogi Swyddog
Ieuenctid i gynnig cyngor a gweithgareddau i Ieuenctid y sir.
Dysgwyr
Mae darpariaeth i ddysgwyr yn rhan ganolog
o waith y Fenter ac rydym bellach wedi trefnu nifer o weithgareddau
cymdeithasol ar eu cyfer mewn ardaloedd gwahanol y sir. Er bod nifer
helaeth o wersi ar gyfer dysgwyr y sir, prin yw'r cyfle iddynt gymdeithasu
trwy gyfrwng y Gymraeg a magu hyder wrth wneud hynny. Yn ogystal,
mae'r Fenter, fel rhan o Mentrau Morgannwg a Gwent wedi derbyn £1000
i ddosbarthu i ddysgwyr. Y flwyddyn ddiwethaf felly, fe sefydlwyd
Cynllun Grantiau Bach HSBC i Ddysgwyr a dosbarthwyd grantiau i dros
40 o ddysgwyr fel cyfraniad at gostau gwersi, costau cyrsiau a deunyddiau.
Rydym wedi sicrhau nawdd ar gyfer y flwyddyn hon yn ogystal ag fe
fydd y cynllun yn ail gychwyn ar gyfer eleni yn fuan. Mewn cydweithrediad
â Swyddog Cymraeg yn y Gweithle rydym hefyd yn annog cyrff
a busnesau lleol i ddatblygu gwersi Cymraeg yn y Gweithle.
Gofal Plant
Wrth gydweithio'n agos a Chwarae Teg a Partneriaeth
Gofal Plant Sir Caerffili rydym wrthi'n sefydlu clybiau gofal plant
ar ôl ysgol yn ysgolion Cymraeg yr ardal. Fe fydd dau yn agor
ym mis Medi a dau ychwanegol ym mis Ionawr. Mae'r datblygiadau hyn
yn rhan o gynllun y Fenter i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
i gynlluniau haf a gofal cyn ysgol.
Hyfforddiant a chyngor
Mae Menter Iaith Sirol Caerffili hefyd wedi
cynnal sesiynau hyfforddiant Cyfleodd Cyfartal ar gyfer staff y
Cyngor Sir, ysgolion a chyrff eraill. Bwriedir ehangu’r hyfforddiant
hwn yn y dyfodol agos a'i gynnig I amrywiaeth o gyrff yn y sector
preifat a gwirfoddol. Mae'r Fenter hefyd yn gweithredu fel canolfan
gwybodaeth ac yn medru cynnig cyngor a chysylltiadau ar gyfer cyrff
ac unigolion y sir.
Cysylltwch â Lowri Catrin Pugh, Swyddog
Datblygu, 01443 820913 / menter@caerffili.org
Gorffennaf 2001
|