
|
25 Tachwedd 2006
Maenordy Llancaiach Fawr
10:00 – 4:00 Mynediad am ddim i’r Ffair Nadolig |
|
FFAIR NADOLIG MENTER IAITH
|
|
Wedi llwyddiant ein ffair Nadolig cyntaf y llynedd, rydym am gynnal ffair Nadolig Eleni eto. Bydd Menter Iaith Sir Caerffili yn cynnal ffair Nadolig yn lleoliad prydferth Maenordy Llancaiach Fawr. Dyma gyfle i brynnu anrhegion a chynnyrch Cymreig, gan osgoi prysurdeb y stryd fawr. Gwahoddir ymwelwyr i grwydro o amgylch y stondinau tra’n gwrando ar gorau lleol a cherddorion. Bydd ystod eang o weithgareddau i gadw’r plant yn brysur, ac i blant da bydd cyfle iddynt roi eu llythyr i Siôn Corn.
Dewch draw i weld pa ddanteithion sydd ar gael.
|
